Ffederasiwn Cysgod y Foel
Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn
Croeso i wefan
Ffederasiwn Cysgod y Foel
Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn
Croeso cynnes i Ffederasiwn Cysgod y Foel, sef Ysgolion Ffridd y Llyn a Bro Tryweryn.
Edrychwn ymlaen at eich cwmni yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r wefan yma yn cynnig gwybodaeth am y ffederasiwn a'r ysgolion, ei nodau, y cwricwlwm a’r gweithgareddau amrywiol sy’n
digwydd yma.
Ymdrechwn i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo’n hapus ac yn saff yn yr ysgol. Credwn fod y dysgu mwyaf effeithiol yn digwydd pan fo plant mewn lle da yn feddyliol a chorfforol.
Pwysleisiwn mai partneriaeth yw addysg rhyngom ni yma a chwithau yn y cartref. Mewn cydweithrediad, gobeithiwn y bydd cyfnod eich plentyn gyda ni yn hapus ac y bydd yn datblygu’n
addysgiadol a chymdeithasol.
Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol, ond ein nod yw sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r sector uwchradd. Mae pentrefi cyfagos yn
ardaloedd naturiol Cymraeg sy’n llawn hanes, ac rydym am ddathlu hynny ym mhob rhan o’n gwaith gan sicrhau fod pob rhanddeiliad, beth bynnag fo’u cefndir, yn gwerthfawrogi cyfoeth
ein hanes.
Mae’r staff yn y ddwy ysgol yn cydgynllunio, rhannu arbenigedd ac arferion da. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar safon y dysgu ac yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i’r
disgyblion gydweithio ar brosiectau amrywiol ar y cyd, gan ehangu eu cylch o ffrindiau.
Ein nod yw darparu awyrgylch hapus a chysurus ar gyfer eich plentyn er mwyn hybu datblygiad moesol, ysbrydol, diwylliannol a chorfforol. Cyflwynwn amrywiaeth eang o weithgareddau
addysgol cytbwys ar gyfer yr holl blant er mwyn eu galluogi i ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol, mentrus, annibynnol ac iach.
Rydym yn gweithredu polisi drws agored a chyfathrebu agored. Gofynnwn i rieni gysylltu â’r ysgol i drefnu cyfarfod os oes ganddynt unrhyw bryderon, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd tuag
at ddatrysiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach ynglŷn ag unrhyw fater, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r ysgolion.
Yn gywir,
Mrs Awel Mai Jones - Pennaeth mewn gofal
Cysylltu |
Contact
Ysgol Bro Tryweryn
Frongoch
Y Bala
Gwynedd
LL23 7NT
Ffôn / Tel:
01678 520740
Ffederasiwn Cysgod y Foel © 2026 Website designed and maintained by H G Web Designs
Ysgol Ffridd y Llyn
Cefnddwysarn
Y Bala
Gwynedd
LL23 7HE
Ffôn / Tel:
01678 530373